Allwch chi helpu ni i ddeall eich cymuned yn well?
Yn y Gronfa Loteri Fawr, rydym yn credu y dylai pobl arwain ar wella'u bywydau a'u cymunedau. Bydd ein hymagwedd yn canolbwyntio ar y sgiliau, rhwydweithiau ac egni y gall pobl alw arnynt a'r potensial yn eu syniadau.
I alluogi hwn i ddigwydd, mawr hoffem ni ddeall mwy am y cymunedau y mae pobl yn byw gweithio ac yn treulio amser ynddynt, er mwyn i ni ddarparu cefnogaeth effeithiol i'ch galluogi i gyflawni pethau gwych.
I'n helpu ni i ddeall eich cymuned yn well byddem yn ddiolchgar iawn petaech yn gallu rhoi ychydig funudau i ateb y cwestiynau isod. Diolch i chi